I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   

Hafan » Amdanom Ni » Newyddion

Newyddion

Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i ennill pwerau dros ganiatâd adeilad rhestredig

Mae Llywodraeth Cymru wedi dirprwyo rhai pwerau dros geisiadau caniatâd adeiladau rhestredig i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mae’r penderfyniad yn golygu mai Arfordir Penfro ydyw’r Awdurdod Parc Cenedlaethol cyntaf yng Nghymru sy’n gallu penderfynu ar fathau arbennig o geisiadau caniatâd adeilad rhestredig sy’n perthyn i adeiladau Graddfa 11 heb orfod hysbysu Cadw, corff amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn dal yn rhan o bob penderfyniad sy’n ymwneud ag adeiladau rhestredig Graddfa 1 a 11* ac unrhyw adeiladau sydd wedi cael arian grant oddi wrth Cadw yn y deng mlynedd diwethaf.

Mae cynghorau Siroedd Caerfyrddin, Bro Morgannwg, Mynwy a Phenfro eisoes wedi gwneud cais ac wedi derbyn pwerau tebyg.


 
Rob Scourfield, Swyddog Cadwraeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
 
Wrth gyhoeddi ei benderfyniad, dywedodd y Gweinidog: “Mae dirprwyo’r pwerau dros ganiatâd adeilad rhestredig i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn destament i’r ffaith fod yr Awdurdod wedi dangos fod ganddo'r arbenigedd cadwraeth angenrheidiol a chymhwysedd helaeth wrth drafod ceisiadau.

“Tra bydd y penderfyniad yn cyflymu’r broses cynllunio i ymgeiswyr o fewn y Parc Cenedlaethol, bydd hanes ardderchog Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn delio ag adeiladau rhestredig yn y gorffennol yn golygu y bydd yr adeiladau rhestredig yn yr ardal yn parhau i gael eu diogelu’n dda.”

Dywedodd Rob Scourfield, Swyddog Cadwraeth Adeiladau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Yr ydym yn falch iawn o gael ein dirprwyo i benderfynu ar geisiadau yn ymwneud ag adeiladau rhestredig Graddfa 11 o fewn y Parc Cenedlaethol. Ar hyn o bryd y mae gennym 1,242 o adeiladau rhestredig yn y Parc, yn amrywio o gestyll i fythynnod.”

“Bydd dirprwyo yn golygu y byddwn yn gallu darparu gwasanaeth mwy effeithiol, gan adeiladu ar yr arfer da a ddilynir gennym wrth weithio’n agos gyda pherchnogion a phreswylwyr o gam eithaf cynnar yn y broses ceisiadau. Mae ein hadeiladau rhestredig yn werthfawr ac yn adnodd penodol, ac yn rhan bwysig iawn o’r hyn sy’n gwneud Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn unigryw”
 

Gyhoeddi 01/08/2012



yn ôl Nôl i'r rhestr newyddion