I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   

Hafan » Mwynhau » Bywyd Gwyllt

Bywyd Gwyllt

Dewch i archwilio’r bywyd gwyllt bendigedig sydd wedi ymgartrefu yma ar Arfordir Penfro - heb anghofio’r amrywiaeth anhygoel o fywyd gwyllt tymhorol sydd wrth ei fodd yn ymweld â Sir Benfro flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Seal pup

Mae Arfordir Penfro yn drysor ar dirwedd Prydain. Mae llawer ohono heb ei ddifetha na’i gyffwrdd gan ddwylo dyn na dulliau dwys bywyd a ffermio modern, ac felly mae’n gartref delfrydol i lawer o rywogaethau brodorol sydd wedi diflannu o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig.

Mae adar prin fel y frân goesgoch, yr ehedydd a chrec penddu’r eithin wedi dewis y gweundir arfordirol fel eu cartref. Mae ystlumod a sawl math o aderyn yn hela ar hyd llinellau’r cloddiau clwm, sy’n gyfoeth o flodau gwyllt, ac mae’r morloi llwyd yn geni eu rhai bach ar ein glannau tra bod y dolffiniaid a’r llamhidyddion yn chwarae yn y tonnau.

Gannets on Grassholm

Ac er bod y cymeriadau lleol hyn yn fwy na digon, rydyn ni hefyd yn ffodus iawn ein bod ni’n denu toreth o greaduriaid gwyllt a gwahanol sy’n dychwelyd at lannau Sir Benfro bob blwyddyn. Mae’r rhain yn cynnwys helforgwn, morfilod orca, morfilod glas, siarcod glas, pysgod yr haul, slefrenni amrywiol, crwbanod y môr a dolffiniaid Risso. Rydych chi’n hynod o lwcus os cewch chi gipolwg!

Porwch drwy'r tudalennau hyn i ddysgu mwy am …

• yr adar, y mamaliaid a’r creaduriaid eraill sydd wedi ymgartrefu yn Sir Benfro

• sut mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro’n gweithio i sicrhau bod ein bywyd gwyllt brodorol yn parhau i oroesi a ffynnu

• yr holl fathau gwahanol o fywyd gwyllt, o forfilod i flodau Llwybr yr Arfordir

Dewch i Archwilio!